Uwchradd

Mae Mentora Amlieithog yn darparu adnoddau addysgu amlieithog rhad ac am ddim i ysgolion cynradd ac uwchradd dwyieithog, cyfrwng Cymraeg, a Saesneg. Mae’r adnoddau hyn yn helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Caiff athrawon eu hannog i lawrlwytho’r adnoddau a’u haddasu i fod yn addas ar gyfer cyd-destun eu hysgolion eu hunain a’r ieithoedd sy’n cael eu siarad yn eu hysgolion a’u cymunedau lleol.

Mae’r adnoddau’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddeall a gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol ieithoedd drwy roi amrywiaeth o wybodaeth iddyn nhw am ddiwylliant, pobl a hanes Cymru ond hefyd am y byd yn gyffredinol. Mae dull amlieithog yr adnoddau’n cefnogi dysgwyr i drosglwyddo gwybodaeth o un iaith i’r llall, gan ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr yn y Gymraeg, Saesneg, ac Ieithoedd Rhyngwladol.

Enwau

Beth all enwau ddweud wrthym am hanes a diwylliant? Wel... llawer! I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Clociau

Ffordd i gadw llygad ar yr amser am filoedd o flynyddoedd! I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Cinio ysgol o gwmpas y byd

Beth ydych chi’n hoffi am ginio ysgol? I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Calendrau

Ffordd syml o drefnu ein hamser ... a llawer mwy na hynny! I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Arian

Arian sy’n gwneud i'r byd droi. Mae’r adnodd yma’n rhoi cipolwg i chi ar arian ledled y byd. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Bisgedi

Snac blasus sydd hefyd yn gallu mynd â chi ar daith o amgylch y byd. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Alebrijes

Dewch i ddarganfod traddodiad newydd a chreu eich anifail chwedlonol eich hun. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Nadolig

Dewch i ddarganfod traddodiadau a chymeriadau’r Nadolig o bob rhan o'r byd. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Fer

Gweithdy sy'n dangos y sgiliau hanfodol sy'n cael eu meithrin wrth ddysgu iaith. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.

Pam Dysgu Iaith - Fersiwn Hir

Gweithdy sy'n dangos y sgiliau hanfodol sy'n cael eu meithrin wrth ddysgu iaith. I lawrlwytho, ewch i: View > File > Save As > Download Copy.