Mae Mentora Amlieithog yn ganolfan arloesedd sy’n sbarduno prosiectau newydd a dylanwadol er mwyn cefnogi addysg yng Nghymru.
A hwythau wedi’u modelu ar waith ymchwil seiliedig ar dystiolaeth Mentora Amlieithog, mae’r prosiectau hyn yn dangos pa mor hyblyg a pherthnasol yw ein dulliau mentora a dysgu arloesol. Maen nhw’n amrywio o brosiectau peilot sy’n profi dulliau newydd o weithredu, i brosiectau sydd bellach yn ffynnu ar eu pen eu hunain.Â
Caru Darllen
Mae'r prosiect Mentora Caru Darllen yn defnyddio egwyddorion a damcaniaethau mentora i feithrin cymhelliant a hyder dysgwyr i ddarllen.
Mentora Amlieithog mewn Ysgolion Cynradd
Prosiect peilot oedd Mentora Amlieithog mewn Ysgolion Cynradd wedi’i fodelu ar y prosiect Mentora Amlieithog a oedd wedi cael ei gyflwyno dros flwyddyn academaidd 2024-25.
Mentora Ffiseg
Yn wreiddiol, roedd y prosiect Mentora Ffiseg wedi’i seilio ar y Prosiect Mentora Amlieithog, gan addasu'r dulliau gweithredu a fu'n llwyddiannus yn y prosiect yma i gynyddu nifer y dysgwyr benywaidd sy'n dewis astudio Ffiseg ar lefel uwch.Â
